-
- Pembroke Port Home /
- News /
- Porthladd Aberdaugleddau yn torri tir newydd yn ystod cyfnod allweddol prosiect ynni adnewyddadwy morol
Porthladd Aberdaugleddau yn torri tir newydd yn ystod cyfnod allweddol prosiect ynni adnewyddadwy morol
17 August 2022
Read in English
Mae’r gwaith o adeiladu llithrfa enfawr newydd a phontydd cychod ar gyfer cychod gwaith wedi dechrau ym Mhorthladd Penfro. Mae’n gam mawr ymlaen wrth wireddu gweledigaeth Porthladd Aberdaugleddau o ran Dyfrffordd Aberdaugleddau yn gwneud cyfraniad hanfodol wrth sbarduno twf gwyrdd newydd ledled y rhanbarth, a chefnogi trawsnewidiad y wlad i ddyfodol sero net yr un pryd.
Bydd y llithrfa newydd yn sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf ar gyfer lansio ac adfer dyfeisiau a llongau ynni morol, a bydd y pontydd cychod yn cryfhau gweithrediadau’r Porthladd a’r cynnig cynnal a chadw ar gyfer y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr.
Meddai Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol Porthladd Aberdaugleddau:
“Mae’n wych gweld y datblygiad hwn ar waith ym Mhorthladd Penfro. Bydd y gofodau a’r cyfleusterau newydd hyn sydd wedi’u huwchraddio yn berffaith ar gyfer y diwydiant carbon isel sy’n tyfu o gwmpas y Môr Celtaidd ynghyd â’r cwmnïau cadwyn gyflenwi a fydd yn elwa ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu yma. Rydym yn edrych ymlaen at weld newidiadau enfawr dros y deunaw mis nesaf, gan weithio gyda diwydiant a’r byd academaidd i sicrhau’r buddiannau lleol a rhanbarthol mwyaf posibl.”
Mae’r gwaith yn cyd-fynd â’r gwaith o adnewyddu’r Rhandai sydd ynghlwm wrth siediau awyrennau Sunderland. Rydym hanner ffordd gyda’r gwaith adeiladu bellach a byddant yn creu gofodau swyddfa a gweithdai newydd ar gyfer y diwydiant. Bydd cyfnodau diweddarach y prosiect yn canolbwyntio ar greu gofodau mawr ar gyfer cynhyrchu a datblygu dyfeisiau.
Mae moderneiddio seilwaith y Porthladd yn rhan o brosiect Morol Doc Penfro, sef partneriaeth £60 miliwn rhwng Porthladd Aberdaugleddau, Offshore Renewable Energy Catapult, Ynni Môr Cymru a Celtic Sea Power. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a thrwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae’r platfform cydweithredol hwn eisoes wedi denu cwmnïau o bedwar ban byd sy’n arwain ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu newydd ym maes cynhyrchu pŵer ynni morol, ac mae yno awch i wneud mwy. Mae’r Offshore Renewable Energy Catapult, sef canolfan dechnoleg, arloesi ac ymchwil mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr, hefyd wedi dangos ei hyder ym mhotensial yr ardal gyda datblygiad Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol gwerth miliynau o bunnoedd yn Noc Penfro.
Meddai’r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd:
“Mae cyswllt anorfod rhwng Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac iechyd economi Sir Benfro. Mae angen i ni fuddsoddi yn y ddyfrffordd er mwyn cynnal cyflogaeth ond hefyd i sicrhau bod hwn yn parhau yn borthladd ynni mwyaf blaenllaw’r DU.
“Hyd at 30% o nwy y DU heddiw, ond hefyd Hydrogen Gwyrdd/ Glas a thrydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ynni gwynt sy’n arnofio yfory.
“Y buddsoddiadau hyn yw’r sylfaen rydym yn gobeithio seilio cenhedlaeth nesaf y diwydiant ynni arnynt, ac yn sgil hynny y genhedlaeth nesaf o swyddi ynni.”
Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
“Mae’r Fargen Ddinesig yn gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â’r uchelgais i dyfu’r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn Sir Benfro a ledled y rhanbarth, gyda ffocws ar y sector ynni a thechnolegau adnewyddadwy. Rydym yn croesawu BAM Nuttall i adeiladu’r pontydd cychod ar gyfer cychod gwaith a’r llithrfa ym Mhorthladd Penfro. Bydd hyn yn helpu i adfywio ardal y porthladd a chefnogi’r economi ynni glas-gwyrdd yn ehangach. Mae’r datblygiad cyffrous hwn, law yn llaw â chymeradwyaeth ddiweddar ar gyfer y prosiect peilot Sgiliau a Doniau’r Fargen Ddinesig, a fydd yn darparu sgiliau hanfodol yn y sector ynni adnewyddadwy, yn dangos ein bod yn canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, cefnogi ynni gwynt sy’n arnofio ar y môr a datblygu ein doniau ifanc i gefnogi’r sector hwn.”
Mae cwmni peirianneg sifil BAM Nuttall wedi’i benodi i adeiladu’r llithrffordd a’r pontydd cychod newydd ar gyfer cychod gwaith.
Meddai Ian Hubbard, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BAM ar gyfer De Lloegr a Chymru:
“Mae gan Borthladd Aberdaugleddau weledigaeth ar gyfer adfywio Doc Penfro ac mae BAM yn falch iawn o gyfrannu at hynny. Mae’r Porthladd mewn lleoliad delfrydol ar gyfer gwasanaethu ynni tonnau, llanw a gwynt a bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn ein helpu i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r diwydiant ynni adnewyddadwy ar y môr sydd yn tyfu ar hyn o bryd. Bydd BAM yn cyflogi cymysgedd o lafur lleol ac arbenigol i wneud y gwaith, felly bydd y contract hwn yn creu swyddi yn ardal Sir Benfro ynghyd â helpu i foderneiddio cyfleusterau’r porthladd.”
Ffotograff (o’r chwith i’r dde): Will Bramble, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro; Ian Hubbard, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BAM ar gyfer De Lloegr a Chymru; Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau; Pamela George, Maer Cyngor Tref Doc Penfro; Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe; y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd.