Gofod Swyddfa a Gweithdai Rhandai Awyrendy i’w gosod

Read in English

Gofodau swyddfa a gweithdy newydd i’w gosod yn Noc Penfro yn gynnar yn 2023, yn y porth i’r Môr Celtaidd.

Cartref ar gyfer eich busnes

Mae gan Ddoc Penfro gysylltiad maith ag adeiladu morol ar raddfa fawr, o’i sefydlu fel Iard Longau Llyngesol Brenhinol i adeiladu llongau i’r llynges ym 1814, i iard longau brysur gyda busnesau cadwyn gyflenwi soffistigedig a gweithlu dawnus ar y safle heddiw.

Mae Awyrendai Sunderland wedi bod yn rhan o’n tirwedd hanesyddol ers blynyddoedd lawer, yn gartref i’r Cychod Hedfan a amddiffynnodd ein glannau yn yr Ail Ryfel Byd a hyd yn oed cyfrinach fwyaf anobeithiol Doc Penfro pan adeiladwyd llong ofod enwog yma yn yr 1970au.

Wrth i ni ddechau ar bennod newydd yn hanes morol Doc Penfro, mae’r rhandai sy’n gysylltiedig â’r adeiladau enwog hyn yn Noc Penfro yn cael eu hadnewyddu i ddarparu gofodau swyddfa a gweithdy newydd sbon.

Dyma ddatblygiad sy’n cael ei arwain gan Borthladd Aberdaugleddau, fal rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd y prosiect yn creu canolfan o safon byd ar gyfer ynni a pheirianneg morol yn agos i’r Môr Celtaidd. Yn ogystal â gofodau swyddfa a gweithdy newydd, rydym yn mynd ati i gefnogi diwydiannau gwyrdd ymhellach, gyda gofod cynhyrchu ac adeiladu, llithrfa estynedig a pharth angori newydd.

Yn dilyn ymgysylltu â’r gymuned, bydd pob un o’r adeiladau newydd yn cael enw sydd â chysylltiad arbennig â hanes diddorol Doc Penfro.

Tŷ Catalina – gofod swyddfa a gweithdy ysgafn deulawr 760m2
Tŷ Falcon – gofod swyddfa 181m2 newydd ar y llawr isaf
Tŷ Erebus – gofod swyddfa 169m2 ar y llawr isaf gyda mynediad ar hyd ramp
Tŷ Oleander – Llety swyddfa deulawr 654m2 i gyd

Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Noc Penfro yn rhan o’r bennod nesaf yn ei hanes morol ac wrth fod wedi’i leoli yma, bydd gan eich busnes fynediad at:

  • Gadwyn gyflenwi leol brofiadol ar safle
  • Gweithlu dawnus lleol gyda sgiliau trosglwyddadwy o’r diwydiannau ynni
  • Sylfaen gynyddol o gwmnïau yn datblygu a phrofi dyfeisiau a rheoli prosiectau datblygu yn y diwydiannau Gwynt Alltraeth Arnofiol, Ynni Adnewyddadwy a Lleihau Carbon
  • Mynediad at y cei
  • Mannau storio mewnol ac allanol
  • Cysylltiadau trafnidiaeth da ar y ffordd a’r môr, gan gynnwys gwasanaeth llongau Irish Ferries ddwywaith y dydd i Iwerddon
  • Cymuned fusnes gefnogol a chydweithredol
  • Rheolwr Masnachol ymroddedig i weithio gyda chi wrth i’ch busnes ddatblygu
  • Arbenigedd tîm Porthladd Aberdaugleddau ar gael i gynnig arweiniad


I drafod eich gofynion busnes, cysylltwch â Sharon Adams, y Rheolwr Masnachol, drwy gyflwyno ffurflen holi neu ffonio +44(0)1646 796152.

Dilynwch y gwaith o drawsnewid rhandai'r awyrendai Sunderland hanesyddol yn swyddfeydd a gweithdai modern ar gyfer diwydiant, o'r dechrau i'r diwedd >


Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo