Datblygiad Rhandai’r Awyrendy

Read in English

Fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro, gyda chefnogaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae pedwar rhandy awyrendy Sunderland rhestredig Gradd II wrthi’n cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd yn lleoedd gwaith modern newydd ym mhorthladd Penfro, ac maent yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiant adnewyddadwy sy'n prysur dyfu.

Mae prosiect Hwb Morol Doc Penfro yn creu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer ynni a pheirianneg morol yn agos at y Môr Celtaidd a'i adnoddau ynni morol aruthrol. Yn ogystal â swyddfeydd a gweithdai newydd yn y rhandai, rydyn ni'n cefnogi'r diwydiant adnewyddadwy ymhellach trwy greu gofod cynhyrchu ac adeiladu ychwanegol, llithrfa estynedig a pharth angori newydd.

Man cychwyn y datblygiad oedd holi'r gymuned leol am enwau'r hen safle hanesyddol, ac o ganlyniad, mae gan bob un o'r adeiladau ar eu newydd wedd enw â chysylltiad arbennig â hanes diddorol Doc Penfro.

Cwmni contractwyr R ac M Williams sy'n gyfrifol am y gwaith adnewyddu, a daethom i'w hadnabod trwy'n cyfres reolaidd Cwrdd â phobl Doc Penfro ar ddechrau'r prosiect.

Wrth i ni ddilyn y gwaith o drawsnewid rhandai'r awyrendy o'r dechrau i'r diwedd, rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y cyfanwaith yn dod yn rhan annatod o brosiect Hwb Morol Doc Penfro.

Bydd y swyddfeydd a'r gweithdai ar gael i’w gosod o ddechrau 2023 ac mae rhagor o fanylion ar gael ar-lein neu yn llyfryn y rhandai. I drafod ymhellach, cysylltwch â Sharon Adams, Rheolwr Masnachol drwy gyflwyno ffurflen ymholi neu ffonio +44(0)1646 796152.

 

Tŷ Catalina

Swyddfa a gweithdy ysgafn deulawr 760m2

Awst 2022: Mae R ac M Williams wedi dymchwel yr adeilad blaenorol er mwyn uwchraddio'r cyfarpar switshys, a fydd yn gwella diogelwch a dibynadwyedd safle'r Porthladd.

 

Ionawr 2023: Mae'r clostir Polyester a Atgyfnerthwyd Ffeibr Gwydr (GRP) newydd wedi’i osod ar y safle ynghyd â gêr switsio newydd a fydd yn cymryd lle’r hen gêr yn gynnar yn 2023. Mae sylfeini newydd wedi’u gosod, mae'r ffrâm ddur bellach wedi'i gosod a'r agoriad strwythurol wedi ei ffurfio. Mae gwaith adeiladu allanol wedi digwydd i baratoi ar gyfer y gwaith rendro. Mae'r to newydd wedi ei osod a'r ardal wedi’i pharatoi ar gyfer y gwaith gosod. Ffurfiwyd y dec concrid ar y llawr cyntaf ynghyd â'r waliau allanol. Mae unedau gwydr Crittal newydd wedi'u gosod ymhob man, gan gynnwys llenfur. Yn fewnol, mae'r gwaith gwrth-dân wedi dechrau drwy godi waliau mewnol.

Chwefror 2023: Mae'r System Fframiau Dur mewnol wedi'i chwblhau i ffurfio gorffeniad y waliau mewnol. Mae'r ystafelloedd ar y llawr cyntaf wedi cael eu haddurno’n llwyr, a phrawf tân y llawr gwaelod wedi'i gwblhau. Mae'r waliau bloc newydd wedi'u ffurfio yn y gweithdai ac mae'r dur strwythurol bellach yn ei le yn barod ar gyfer y drysau caead rholio. Yn allanol, mae’r gwaith ar y tir yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn gallu uwchraddio’r offer gêr swîtsys trydan.

Mai 2023: Mae'r holl waliau mewnol wedi’u creu, eu tapio a’u huniadu ac mae'r got gyntaf o baent bellach wedi ei chwblhau. Mae'r drysau rholio newydd wedi'u gosod yn y gweithdai ac mae'r gwaith uwchraddio gêr switsys wedi'i gwblhau. Mae'r gwaith o osod y systemau mecanyddol a thrydanol a gwaith coed cyntaf yn parhau.

Mehefin 2023:Mae’r gwaith addurno mewnol yn parhau drwy’r safle; mae’r lifft wedi’i osod a’i gomisiynu ac mae’r grisiau mewnol newydd wedi’u hadeiladu. Mae’r toiledau a’r ystafelloedd cawod wedi’u gosod ac mae’r gwaith teilio wedi’i gwblhau, ynghyd â’r gwaith ar y gegin. Mae’r gwaith o osod y systemau mecanyddol a thrydanol cyntaf wedi’i gwblhau ac mae bellach wedi symud ymlaen i’r ail gam, ac mae’r gwaith coed yn mynd rhagddo ymhob rhan. Y tu allan, mae system rendro Sto ar waith o hyd.

Catalina 2 Catalina 

Medi 2023: Rydym bellach yng nghamau olaf y comisiynu. Yn fewnol, mae rhwystr terfynol wedi'i ddatrys gan y pensaer a'r cleient, ac mae'r contractwr yn gweithio trwy'r rhain yn barod ar gyfer trosglwyddo. Yn allanol, mae'r ffens derfyn wedi'i gosod ac mae’r maes parcio tarmac wedi'i gwblhau.

 

Tŷ Falcon

Swyddfeydd newydd 181m2 ar y llawr gwaelod

Awst 2022: Mae'r to wedi'i ddymchwel erbyn hyn a'r adeilad wrthi'n cael ei baratoi'n strwythurol ar gyfer y to newydd.

Building before renovation Demolition of building

Ionawr 2023: Mae gwaith atgyweirio strwythurol helaeth wedi'i wneud i’r waliau allanol ac maen nhw wedi’u paratoi ar gyfer rendro â chalch. Mae'r to newydd, y parapetau a'r siliau wedi eu cwblhau erbyn hyn. Mae'r is-ffrâm a'r gwydr Crittal wedi'u gosod drwyddo draw.

Chwefror 2023: Yn fewnol, mae'r gwaith plastro ac addurno cychwynnol wedi'i gwblhau drwyddi draw ac mae’r System Fframiau Dur mewnol wedi’u cwblhau i ffurfio gorffeniad y waliau mewnol. Mae'r ffics cyntaf ar y systemau mecanyddol a thrydanol bellach wedi'i gwblhau gyda'r ail ffics ar y gwaith coed bron â’i gwblhau. Yn allanol, mae'r ail gôt o rendro calch wedi'i daenu ac mae'r ramp mynediad allanol wedi'i greu.

Mai 2023: Y tu mewn, mae'r waliau wedi'i ffurfio gyda'r got gyntaf o baent wedi’i chwblhau drwyddi draw, ac mae'r gegin ynghyd â'r toiled wedi'u gosod. Mae ail haen o waith coed a systemau mecanyddol a thrydanol wedi'i chwblhau. Y tu allan, mae'r rendrad calch bellach wedi'i gwblhau.

Mehefin 2023: Mae'r gwaith addurno terfynol wedi'i gwblhau ymhob man gan gynnwys y carped sydd wedi'i osod drwyddi draw. Mae'r broses comisiynu mecanyddol a thrydanol yn parhau. Y tu allan, mae'r balwstrad wedi'i osod ar gyfer mynediad ramp.

Falcon Falcon 2

Medi 2023: Gwaith wedi’i gwblhau ac yn barod i'w drosglwyddo i'r cleient.

 

Tŷ Erebus

Swyddfa llawr gwaelod 169m2 gyda mynediad ar hyd ramp

Awst 2022: Mae to newydd a system diogelu gweithwyr wedi’u gosod, y sylfeini wedi'u cryfhau drwy danategu, copinau newydd wedi'u gosod ac mae atgyweiriadau concrit i’r colofnau a’r trawstiau strwythurol wedi'u cwblhau. I baratoi ar gyfer ffenestri Crittal, mae agoriadau strwythurol wedi'u ffurfio ac is-fframiau ffenestri newydd wedi'u gosod yn barod.

Building before renovation works Building under renovation

Ionawr 2023: Mae ffenestri Crittal bellach wedi'u gosod ymhob man. Mae'r System Ffrâm Ddur fewnol wedi'i chwblhau i ffurfio gorffeniad y waliau mewnol. Cwblhawyd y gwaith plastro ac addurno cychwynnol ymhob rhan. Mae cam cyntaf y gwaith atgyweirio systemau mecanyddol a thrydanol wedi'i gwblhau gydag ail gam yr atgyweiriadau gwaith coed ar droed hefyd.

Chwefror 2023: Mae'r ail ffics ar y gwaith coed ar y gweill o hyd. Mae gosod y gegin a lloriau Altro wedi'i gwblhau. Yn allanol, cwblhawyd y gwaith o baratoi’r waliau ar gyfer y plastr calch ac mae'r cysylltiad draenio ar y gweill gyda gwaith tirlunio ar y gweill.

Mai 2023: Mae'r ail haen o waith coed wedi'i chwblhau. Y tu allan, mae'r gwaith tirlunio yn parhau ar hyn o bryd, mae'r storfa finiau wedi'i gosod ac mae'r pwyntiau gwefru cerbydau trydan bellach yn eu lle.

Mehefin 2023: Mae'r gwaith addurno terfynol wedi'i gwblhau ymhob man gan gynnwys y carped sydd wedi'i osod drwyddi draw. Mae'r broses comisiynu mecanyddol a thrydanol yn parhau. Y tu allan, mae'r balwstrad wedi'i osod ar gyfer mynediad ramp.

Medi 2023: Gwaith wedi’i gwblhau ac yn barod i'w drosglwyddo i'r cleient.

 

Tŷ Oleander

Swyddfa ddeulawr 654m2 i gyd, a fydd yn barod erbyn diwedd 2022

Awst 2022: Mae to newydd wedi'i osod ar y rhandy yn ogystal â'r system diogelu gweithwyr. Mae sylfeini wedi'u ffurfio ar gyfer yr adeilad cyswllt gwydr newydd gyda ffrâm ddur. Y tu mewn, mae'r gwaith atgyweirio concrit wedi'i gwblhau yn ogystal â gosod Helifix ar y waliau yn barod ar gyfer y bwrdd plastr. Mae rhan gynta'r gwaith trwsio mecanyddol a thrydanol wedi'i gwblhau, a'r system draenio dŵr wyneb wedi'i gosod ar gyfer yr allfa newydd. Mae ffenestri Crittal newydd wedi'u gosod ynghyd â'r is-fframiau, copinau a siliau newydd. Mae'r gwaith paratoi ar gyfer rendro calch ar y gweill ar hyn o bryd.

Building during renovation Building during renovation

Ionawr 2023: Mae'r rendr calch bellach wedi'i gwblhau ar y rhandy presennol. Mae'r wal llenfur newydd wedi'i gosod i'r Adeilad Cysylltiedig. Mae'r tirlunio allanol wedi dechrau yn ardal y maes parcio sy'n cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Yn fewnol, mae ail gam atgyweirio’r gwaith coed a thrydan wedi'i gwblhau drwy'r adeilad ac mae’r gegin a'r gegin fach newydd wedi’u gosod.

Chwefror 2023: Mae’r gwaith addurno bellach wedi'i gwblhau drwy’r anecs gan gynnwys y teils yn yr ardaloedd cegin yn ogystal â'r toiledau ac ystafelloedd cawod. Mae'r ffitiadau golau wedi'u gosod ac mae'r lifft bellach yn ei le. Mae'r system larwm tân a'r rheolaeth mynediad yn cael ei osod ar hyn o bryd. Mae drws caead rholio newydd wedi'i osod ar gyfer y gweithdy brics coch.

Mai 2023: Mae'r systemau mecanyddol a thrydanol yn mynd trwy'r profion cychwynnol yn barod ar gyfer comisiynu. Mae'r drysau mewnol yn eu lle ac mae’r gwaith coed mewnol bron wedi'i gwblhau. Y tu allan, mae'r tirlunio wedi'i gwblhau ac mae'r pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi'u gosod.

Mehefin 2023:Mae'r gwaith addurno terfynol a'r glanhau wedi'u cwblhau a chyflwynwyd y cyfan i’r penseiri ar gyfer unrhyw gamau cywiro terfynol.

Medi 2023: Gwaith wedi'i gwblhau ac mae’r adeiladu bellach wedi'i feddiannu.

 

Gallwch weld manylion llawn pob eiddo ynghyd â lluniau cyfrifiadurol a'r straeon y tu ôl i'r enwau yma >

Lawrlwytho llyfryn >

 

Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo

Cartref i’ch busnes

Swyddfeydd a gweithdai newydd ar osod ym mhorthladd Penfro, y porth i'r Môr Celtaidd.

Learn More