Datblygiad Rhandai’r Awyrendy
Read in English
Fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro, gyda chefnogaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae pedwar rhandy awyrendy Sunderland rhestredig Gradd II wrthi’n cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd yn lleoedd gwaith modern newydd ym mhorthladd Penfro, ac maent yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiant adnewyddadwy sy'n prysur dyfu.
Mae prosiect Hwb Morol Doc Penfro yn creu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer ynni a pheirianneg morol yn agos at y Môr Celtaidd a'i adnoddau ynni morol aruthrol. Yn ogystal â swyddfeydd a gweithdai newydd yn y rhandai, rydyn ni'n cefnogi'r diwydiant adnewyddadwy ymhellach trwy greu gofod cynhyrchu ac adeiladu ychwanegol, llithrfa estynedig a pharth angori newydd.
Man cychwyn y datblygiad oedd holi'r gymuned leol am enwau'r hen safle hanesyddol, ac o ganlyniad, mae gan bob un o'r adeiladau ar eu newydd wedd enw â chysylltiad arbennig â hanes diddorol Doc Penfro.
Cwmni contractwyr R ac M Williams sy'n gyfrifol am y gwaith adnewyddu, a daethom i'w hadnabod trwy'n cyfres reolaidd Cwrdd â phobl Doc Penfro ar ddechrau'r prosiect.
Wrth i ni ddilyn y gwaith o drawsnewid rhandai'r awyrendy o'r dechrau i'r diwedd, rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y cyfanwaith yn dod yn rhan annatod o brosiect Hwb Morol Doc Penfro.
Bydd y swyddfeydd a'r gweithdai ar gael i’w gosod o ddechrau 2023 ac mae rhagor o fanylion ar gael ar-lein neu yn llyfryn y rhandai. I drafod ymhellach, cysylltwch â Sharon Adams, Rheolwr Masnachol drwy gyflwyno ffurflen ymholi neu ffonio +44(0)1646 796152.
Swyddfa a gweithdy ysgafn deulawr 760m2
Awst 2022: Mae R ac M Williams wedi dymchwel yr adeilad blaenorol er mwyn uwchraddio'r cyfarpar switshys, a fydd yn gwella diogelwch a dibynadwyedd safle'r Porthladd.
Ionawr 2023: Mae'r clostir Polyester a Atgyfnerthwyd Ffeibr Gwydr (GRP) newydd wedi’i osod ar y safle ynghyd â gêr switsio newydd a fydd yn cymryd lle’r hen gêr yn gynnar yn 2023. Mae sylfeini newydd wedi’u gosod, mae'r ffrâm ddur bellach wedi'i gosod a'r agoriad strwythurol wedi ei ffurfio. Mae gwaith adeiladu allanol wedi digwydd i baratoi ar gyfer y gwaith rendro. Mae'r to newydd wedi ei osod a'r ardal wedi’i pharatoi ar gyfer y gwaith gosod. Ffurfiwyd y dec concrid ar y llawr cyntaf ynghyd â'r waliau allanol. Mae unedau gwydr Crittal newydd wedi'u gosod ymhob man, gan gynnwys llenfur. Yn fewnol, mae'r gwaith gwrth-dân wedi dechrau drwy godi waliau mewnol.

Swyddfeydd newydd 181m2 ar y llawr gwaelod
Awst 2022: Mae'r to wedi'i ddymchwel erbyn hyn a'r adeilad wrthi'n cael ei baratoi'n strwythurol ar gyfer y to newydd.

Ionawr 2023: Mae gwaith atgyweirio strwythurol helaeth wedi'i wneud i’r waliau allanol ac maen nhw wedi’u paratoi ar gyfer rendro â chalch. Mae'r to newydd, y parapetau a'r siliau wedi eu cwblhau erbyn hyn. Mae'r is-ffrâm a'r gwydr Crittal wedi'u gosod drwyddo draw.

Swyddfa llawr gwaelod 169m2 gyda mynediad ar hyd ramp
Awst 2022: Mae to newydd a system diogelu gweithwyr wedi’u gosod, y sylfeini wedi'u cryfhau drwy danategu, copinau newydd wedi'u gosod ac mae atgyweiriadau concrit i’r colofnau a’r trawstiau strwythurol wedi'u cwblhau. I baratoi ar gyfer ffenestri Crittal, mae agoriadau strwythurol wedi'u ffurfio ac is-fframiau ffenestri newydd wedi'u gosod yn barod.

Ionawr 2023: Mae ffenestri Crittal bellach wedi'u gosod ymhob man. Mae'r System Ffrâm Ddur fewnol wedi'i chwblhau i ffurfio gorffeniad y waliau mewnol. Cwblhawyd y gwaith plastro ac addurno cychwynnol ymhob rhan. Mae cam cyntaf y gwaith atgyweirio systemau mecanyddol a thrydanol wedi'i gwblhau gydag ail gam yr atgyweiriadau gwaith coed ar droed hefyd.

Swyddfa ddeulawr 654m2 i gyd, a fydd yn barod erbyn diwedd 2022
Awst 2022: Mae to newydd wedi'i osod ar y rhandy yn ogystal â'r system diogelu gweithwyr. Mae sylfeini wedi'u ffurfio ar gyfer yr adeilad cyswllt gwydr newydd gyda ffrâm ddur. Y tu mewn, mae'r gwaith atgyweirio concrit wedi'i gwblhau yn ogystal â gosod Helifix ar y waliau yn barod ar gyfer y bwrdd plastr. Mae rhan gynta'r gwaith trwsio mecanyddol a thrydanol wedi'i gwblhau, a'r system draenio dŵr wyneb wedi'i gosod ar gyfer yr allfa newydd. Mae ffenestri Crittal newydd wedi'u gosod ynghyd â'r is-fframiau, copinau a siliau newydd. Mae'r gwaith paratoi ar gyfer rendro calch ar y gweill ar hyn o bryd.

Ionawr 2023: Mae'r rendr calch bellach wedi'i gwblhau ar y rhandy presennol. Mae'r wal llenfur newydd wedi'i gosod i'r Adeilad Cysylltiedig. Mae'r tirlunio allanol wedi dechrau yn ardal y maes parcio sy'n cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Yn fewnol, mae ail gam atgyweirio’r gwaith coed a thrydan wedi'i gwblhau drwy'r adeilad ac mae’r gegin a'r gegin fach newydd wedi’u gosod.

Gallwch weld manylion llawn pob eiddo ynghyd â lluniau cyfrifiadurol a'r straeon y tu ôl i'r enwau yma >
Lawrlwytho llyfryn >
Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.



