Tŷ Catalina – Gofod swyddfa a gweithdy i’w osod

Read in English

Adeilad deulawr newydd gyda gofodau swyddfa a gweithdy newydd i’w gosod yn gynnar yn 2023. Mae’r gofod gweithdy hwn, yn y porth i’r Môr Celtaidd yn Noc Penfro, yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro, mae Tŷ Catalina yn un o bedwar rhandy rhestredig Gradd II sy’n cael ei adnewyddu’n weithle modern hyblyg. Yn sgil hanes morol cyfoethog Doc Penfro, cynhaliwyd cystadleuaeth enwi yn 2021 i ailenwi pob rhandy, gyda phob enw’n canolbwyntio ar dreftadaeth, dyfodol adnewyddadwy a hanes morol yr ardal leol.

Catalina oedd yr enw a awgrymwyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro. Mae’r adeilad deulawr hwn ger Awyrendy Western Sunderland, ac mae’n cael ei ailadeiladu i gynnig gofodau swyddfa a gweithdy ysgafn. Bydd yr adeilad yn cynnwys ystafell gynhadledd fodern, parcio a bydd yn agos i fannau storio, y cei a mynediad at lithrfa.

Mae’r eiddo hwn yn 760m² dros ddau lawr, ac mae ar gael i’w osod yn gynnar yn 2023, gyda’r opsiwn i isrannu. Mae gofodau swyddfa’n amrywio o 37.8m² i 85m², ynghyd â dau ofod gweithdy yn mesur 118m² a 120m², ac ystafell gynhadledd ganolog 32m².

Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Noc Penfro yn rhan o’r bennod nesaf yn ei hanes morol ac wrth fod wedi’i leoli yma, bydd gan eich busnes fynediad at:

  • Gadwyn gyflenwi leol brofiadol ar safle
  • Gweithlu dawnus lleol gyda sgiliau trosglwyddadwy o’r diwydiannau ynni
  • Sylfaen gynyddol o gwmnïau yn datblygu a phrofi dyfeisiau a rheoli prosiectau datblygu yn y diwydiannau Gwynt Alltraeth Arnofiol, Ynni Adnewyddadwy a Lleihau Carbon
  • Mynediad at y cei
  • Mannau storio mewnol ac allanol
  • Cysylltiadau trafnidiaeth da ar y ffordd a’r môr, gan gynnwys gwasanaeth llongau Irish Ferries ddwywaith y dydd i Iwerddon
  • Cymuned fusnes gefnogol a chydweithredol
  • Rheolwr Masnachol ymroddedig i weithio gyda chi wrth i’ch busnes ddatblygu
  • Arbenigedd tîm Porthladd Aberdaugleddau ar gael i gynnig arweiniad

I fod yn rhan o ailddatblygiad Tŷ Catalina, cysylltwch â Sharon Adams, y Rheolwr Masnachol, drwy gyflwyno ffurflen holi neu ffonio +44(0)1646 796152.

Y stori wrth wraidd yr enw “Catalina”…

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yr awyrennau mwyaf poblogaidd ar y pryd oedd PBY Catalina o America, a gyflwynwyd yn y lle cyntaf yn yr 1930au. Roedd gwreiddiau PBY yn deillio o system dynodi awyrennau Awyrlu UDA – mae PB yn golygu “Patrol Bomber” ac Y yn god ar gyfer gweithgynhyrchwyr yr awyren, Consolidated Aircraft.

Defnyddiwyd y Catalina yn ystod y rhyfel ar gyfer bomio patrol, rhyfela yn erbyn llongau tanfor, tywys confois, chwilio ac achub a chludo cargo. Roedd gan yr awyren boblogaidd rôl bwysig yn y fuddugoliaeth ym Mrwydr yr Iwerydd ac fe’i galwyd yn ‘gwch hedfan’ gan nad oedd angen rhedfa arni i esgyn i’r awyr.

Gydol yr 1940au, roedd y Catalina yn hedfan o Awyrendai Sunderland, yn yr hyn sydd bellach yn Borthladd Penfro, gan yr Awyrlu Brenhinol, yn ogystal â byddinoedd Canada a’r Unol Daleithiau. Mae’r Catalina’n parhau i gael ei defnyddio wrth frwydro yn yr awyr ac mae ganddi gysylltiadau cryf ag Ymddiriedolaeth Sunderland, sy’n gweithredu unig Ganolfan Ddehongli Cychod Hedfan y DU yng Nghanolfan Treftadaeth Doc Penfro.

Dilynwch y gwaith o drawsnewid rhandai'r awyrendai Sunderland hanesyddol yn swyddfeydd a gweithdai modern ar gyfer diwydiant, o'r dechrau i'r diwedd >

Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo