Tŷ Erebus – Gofod swyddfa i’w osod

Read in English

Gofod swyddfa llawr isaf newydd i’w osod yn gynnar yn 2023. Mae’r gofod swyddfa a gweithdy hwn, yn y porth i’r Môr Celtaidd yn Noc Penfro, yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro, mae Tŷ Erebus yn un o bedwar rhandy rhestredig Gradd II sy’n cael ei adnewyddu’n weithle modern hyblyg. Yn sgil hanes morol cyfoethog Doc Penfro, cynhaliwyd cystadleuaeth enwi yn 2021 i ailenwi pob rhandy, gyda phob enw’n canolbwyntio ar dreftadaeth, dyfodol adnewyddadwy a hanes morol yr ardal leol.

Yr awgrym Erebus gan David Lockwood oedd un o’r enwau a ddewiswyd gan y panel, ac mae wedi’i roi ar yr adeilad llawr isaf i’r gogledd o Awyrendy’r Gorllewin, a fydd yn cynnwys gofod swyddfa, mynediad ar hyd ramp a pharcio.

Cyfanswm mesuriadau'r gofod sydd ar gael yw 169m2, gyda gofod swyddfa yn amrywio o 23m2 i 38m2.

Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Noc Penfro yn rhan o’r bennod nesaf yn ei hanes morol ac wrth fod wedi’i leoli yma, bydd gan eich busnes fynediad at:

  • Gadwyn gyflenwi leol brofiadol ar safle
  • Gweithlu dawnus lleol gyda sgiliau trosglwyddadwy o’r diwydiannau ynni
  • Sylfaen gynyddol o gwmnïau yn datblygu a phrofi dyfeisiau a rheoli prosiectau datblygu yn y diwydiannau Gwynt Alltraeth Arnofiol, Ynni Adnewyddadwy a Lleihau Carbon
  • Mynediad at y cei
  • Mannau storio mewnol ac allanol
  • Cysylltiadau trafnidiaeth da ar y ffordd a’r môr, gan gynnwys gwasanaeth llongau Irish Ferries ddwywaith y dydd i Iwerddon
  • Cymuned fusnes gefnogol a chydweithredol
  • Rheolwr Masnachol ymroddedig i weithio gyda chi wrth i’ch busnes ddatblygu
  • Arbenigedd tîm Porthladd Aberdaugleddau ar gael i gynnig arweiniad

I fod yn rhan o ailddatblygiad Tŷ Erebus, cysylltwch â Sharon Adams, y Rheolwr Masnachol, drwy gyflwyno ffurflen holi neu ffonio +44(0)1646 796152.

Y stori wrth wraidd yr enw “Erebus”…

Adeiladwyd HMS Erebus yn Noc Penfro, ac ar y pryd, hon oedd yr unig Iard Longau Frenhinol yng Nghymru.

Lansiwyd HMS Erebus ym 1826 a chymerodd ran, gyda HMS Terror, yng nghyrch aflwyddiannus John Franklin i Antartica yn yr 1840au, gyda James Clark Ross wrth y llyw. Roedd y cyrch yn chwilio am y Llwybr Gogledd-orllewinol rhwng yr Iwerydd a’r Môr Tawel.

Roedd y cyrch yn un o ddirgelion mawr hanes gyda’r ddwy long a’r criw yn diflannu, nes i longddrylliad HMS Erebus gael ei ddarganfod ym mis Medi 2014 i’r dwyrain o Queen Maud Gulf, Canada, gan olygu mai’r Erebus oedd y llong ryfel olaf o’r 260 a adeiladwyd rhwng 1814 ac 1922 yn Iard Longau Penfro.

Erebus yw’r enw prosiect hefyd ar brosiect Profi ac Arddangos Gwynt Alltraeth Arnofiol 100MW Blue Gem Wind yn y Môr Celtaidd a gafodd ei enwi ar ôl y llong enwog hefyd.

Dilynwch y gwaith o drawsnewid rhandai'r awyrendai Sunderland hanesyddol yn swyddfeydd a gweithdai modern ar gyfer diwydiant, o'r dechrau i'r diwedd >

Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo