Tŷ Oleander – Gofod swyddfa i’w osod

Read in English

Gofod swyddfa deulawr newydd ar gael i’w osod o ddiwedd 2022 ymlaen, yn y porth i'r Môr Celtaidd yn Noc Penfro – lleoliad delfrydol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro, mae Tŷ Oleander yn un o bedwar rhandy rhestredig Gradd II sy’n cael ei adnewyddu’n weithle modern hyblyg. Yn sgil hanes morol cyfoethog Doc Penfro, cynhaliwyd cystadleuaeth enwi yn 2021 i ailenwi pob rhandy, gyda phob enw’n canolbwyntio ar y dreftadaeth, dyfodol adnewyddadwy a hanes morol yr ardal leol.

Dewiswyd yr enw Oleander gan Tyler Streitberger. Mae’r adeilad deulawr hwn ger Awyrendy’r Dwyrain, a bydd yn cynnwys llety swyddfa ar y ddau lawr. 654m2 yw maint yr eiddo, gyda gofodau swyddfa unigol yn amrywio o 20m2 i 56.7m2.

Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Noc Penfro yn rhan o’r bennod nesaf yn ei hanes morol ac wrth fod wedi’i leoli yma, bydd gan eich busnes fynediad at:

  • Gadwyn gyflenwi leol brofiadol ar safle
  • Gweithlu dawnus lleol gyda sgiliau trosglwyddadwy o’r diwydiannau ynni
  • Sylfaen gynyddol o gwmnïau yn datblygu a phrofi dyfeisiau a rheoli prosiectau datblygu yn y diwydiannau Gwynt Alltraeth Arnofiol, Ynni Adnewyddadwy a Lleihau Carbon
  • Mynediad at y cei
  • Mannau storio mewnol ac allanol
  • Cysylltiadau trafnidiaeth da ar y ffordd a’r môr, gan gynnwys gwasanaeth llongau Irish Ferries ddwywaith y dydd i Iwerddon
  • Cymuned fusnes gefnogol a chydweithredol
  • Rheolwr Masnachol ymroddedig i weithio gyda chi wrth i’ch busnes ddatblygu
  • Arbenigedd tîm Porthladd Aberdaugleddau ar gael i gynnig arweiniad

I fod yn rhan o ailddatblygiad Tŷ Oleander, cysylltwch â Sharon Adams, y Rheolwr Masnachol, drwy gyflwyno ffurflen holi neu ffonio +44(0)1646 796152.

Y stori wrth wraidd yr enw “Oleander”…

Tancer olew Cynorthwyol y Fflyd Frenhinol, Oleander oedd y llong olaf i gael ei hadeiladu gan y Morlys yn Iard Longau’r Llynges Frenhinol yn Noc Penfro, sef dim ond un o chwe llong yn y dosbarth hwn.

Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Oleander ym mis Rhagfur 1920 a chafodd ei hadeiladu yn Iard Longau HM i gadw’r iardiau’n brysur ar ddiwedd y Rhyfel Mawr. Yna, lansiwyd RFA Oleander ym mis Ebrill 1922, sef y llong olaf i’w lansio o’r Iard Longau.

Ar ôl ei lansio, cafodd RFA Oleander ei rheoli’n fasnachol gan y cwmni llongau o Brydain, Davies and Newman Limited, cyn dychwelyd i wasanaeth y Morlys ym 1936 lle cludodd Oleander y cargo cyntaf ar gyfer tanciau llyngesol Awstralaidd i Sydney.

Daeth oes RFA Oleander i ben ym mis Mai 1940 pan ddifrodwyd y llong yn ddifrifol a’i dwyn i’r tir gan ymosodiad awyr yn Norwy yn ystod yr ymgyrch Norwyaidd, a datganwyd bod y llong yn golled lwyr ym mis Mehefin 1940.

Dilynwch y gwaith o drawsnewid rhandai'r awyrendai Sunderland hanesyddol yn swyddfeydd a gweithdai modern ar gyfer diwydiant, o'r dechrau i'r diwedd >

Mae datblygiad Rhandai’r Awyrendy’n rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo