Datblygu llithrfa a phontŵn cychod gwaith

Read in English

Mae llithrfa enfawr a phontŵn ar gyfer angori cychod gwaith newydd wrthi'n cael eu hadeiladu ym Mhorthladd Penfro, fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy'n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae gwaith ar y gweill i greu llithrfa fwy sy'n gallu lansio ac adfer dyfeisiau ynni morol mawr a llongau drwy addasu dwy lithrfa bresennol. Bydd cael gwared ar y rhan ganolog rhwng y ddwy lithrfa yn creu cyfleuster enfawr newydd a bydd y deunyddiau sy'n cael eu tynnu yn cael eu hail-ddefnyddio i lenwi'r pwll pren ar ochr ddeheuol y safle, gan greu llwyfan caled ar gyfer defnydd diwydiannol.

Mae adeiladu pontŵn cychod gwaith newydd hefyd ar y gweill ger docfa bresennol y llongau fferi. Bydd y pontŵn yn darparu docfa fawr ei hangen ar gyfer llongau i gefnogi gweithrediadau hirdymor a chontractau cynnal a chadw ar gyfer y diwydiant gwynt alltraeth arnofiol (FLOW).

Bydd prosiect Hwb Morol Doc Penfro yn sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer ynni morol a pheirianneg gyda mynediad rhwydd at y Môr Celtaidd a'i adnoddau ynni morol sylweddol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r diwydiant adnewyddadwy drwy greu gofod gwaith ffabrigo a gosod ychwanegol, ac yn datblygu swyddfeydd a gweithdai yn Rhandai’r Sied Awyrennau.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Awst 2022 gan y contractwr BAM Nuttall ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo yn dda:

  • Mae'r 5 pontŵn bellach wedi'u gosod a byddant yn weithredol ym mis Ionawr 2024.

  • Mae’r llithrfa wedi'i chwblhau ac mae bellach yn weithredol.

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 2024

 Pontoon Slipway Slipway
Workboat Pontoon      

I drafod eich gofynion busnes, cysylltwch â Sharon Adams, Rheolwr Masnachol drwy gyflwyno ffurflen ymholiadau neu ffonio +44 (0)1646 696631.

Mae Hwb Morol Doc Penfro yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a drwy'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo

Cartref i’ch busnes

Swyddfeydd a gweithdai newydd ar osod ym mhorthladd Penfro, y porth i'r Môr Celtaidd.

Learn More