Hwb Morol Doc Penfro

Read in English

Mae Porthladd Penfro yn newid. Fel rhan o ddatblygiad Hwb Morol Doc Penfro, rydym yn datblygu ein cyfleusterau a’n gofodau i sicrhau y gallwn ddal ati i gefnogi twf diwydiannol a chreu swyddi a chyfleoedd newydd ar gyfer ein cymunedau.

Rydym yn falch o fod yn rhan o’r datblygiad a fydd yn sicrhau canolfan o safon byd ar gyfer ynni morol a pheirianneg ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’n brosiect £60 miliwn a gyllidir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a thrwy fuddsoddiad preifat. Mae’n gyfle anhygoel i roi Doc Penfro wrth wraidd y diwydiant ynni morol sy’n datblygu, ac ar draws y sector morol.

Bydd y prosiect yn creu cyfleoedd enfawr i fusnesau lleol a’r gymuned. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud mwy na meithrin economi leol gryfach, bydd yna hefyd gynnydd mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) sydd wrth wraidd y diwydiant ynni adnewyddadwy, gan greu gyrfaoedd newydd, heriol a gwerth chweil o fewn Sir Benfro. Ond bydd y manteision yn cael eu teimlo ar draws sawl busnes a diwydiant wrth i ni gydweithio i elwa ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn.

Beth sy’n digwydd

Adnewyddu adeilad treftadaeth

Mae’r gwaith ar adnewyddu rhandai yn Sied Awyrennau Sunderland wedi dechrau, gyda R&M Williams wedi’i benodi fel y prif gontractwr. Bydd y rhain yn dod yn ofodau swyddfa a gweithdai ar gyfer diwydiant.

Dysgwch fwy am Ofodau Swyddfa a Gweithdy Rhandy yr hen Sied Awyrennau >

Adeiladu llithrfa a phontŵn cychod gwaith

Bydd y llithrfa newydd yn sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf ar gyfer lansio ac adfer dyfeisiau a llongau ynni morol, a bydd y pontydd cychod yn cryfhau gweithrediadau’r Porthladd a’r cynnig cynnal a chadw ar gyfer y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Awst 2022 gan y contractwr BAM Nuttall.

Gwybodaeth am y gwaith adeiladu >
Rhagor o wybodaeth a gweld y cynnydd diweddaraf >

Ehangu gofod gosod

Dechreuwyd gwaith adfer tir ym mis Hydref 2022 gan y Walters Group. Mae’r gwaith yn cynnwys gwneud gwaith clirio a lefelu a dymchwel adeilad ar ochr ddeheuol y safle i greu 17,000 metr sgwâr o ofod gosod erbyn diwedd 2023.

Mwy o wybodaeth am yr adeiladu yma >
Rhagor o wybodaeth a gweld y cynnydd diweddaraf >


Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo