Datblygu gofod gosod

Read in English

Mae gwaith ar y gweill i greu ofod gosod ychwanegol erbyn dechrau 2024, fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy'n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae'r lle ychwanegol yn cael ei gynhyrchu drwy waith clirio a lefelu a thrwy ddymchwel adeilad. Bydd yr ardal wastad ac agored newydd ar gyfer gosod yn hwyluso’r diwydiant gwynt alltraeth arnofiol a'i gadwyn gyflenwi i storio a symud dyfeisiau mawr, llongau a seilwaith.

Bydd prosiect Hwb Morol Doc Penfro yn sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer ynni morol a pheirianneg gyda mynediad rhwydd at y Môr Celtaidd a'i adnoddau ynni morol sylweddol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r diwydiant adnewyddadwy drwy greu llithrfa enfawr, parth docfeydd newydd a thrwy ddatblygu gofod swyddfa a gweithdai yn Rhandai y Sied Awyrennau.

Dechreuodd y contractwyr Walters Group ar y gwaith adeiladu ym mis Hydref 2022 a disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2024.

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda:

  • Mae’r gofod gosod wedi'i gwblhau a bydd yn weithredol ym mis Ionawr 2024.

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 2024

  Laydown Space
Laydown Space Laydown Space 3
Laydown Space      

I drafod eich gofynion busnes, cysylltwch â Sharon Adams, Rheolwr Masnachol drwy gyflwyno ffurflen ymholiadau neu ffonio +44 (0)1646 696631.

Mae Hwb Morol Doc Penfro yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a drwy'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo

Cartref i’ch busnes

Swyddfeydd a gweithdai newydd ar osod ym mhorthladd Penfro, y porth i'r Môr Celtaidd.

Learn More