Hwb Morol Doc Penfro – Datblygiad Pontynau’r Cychod Gwaith

08 March 2023

Read in English

Mae’r gwaith wedi hen ddechrau ym Mhorthladd Penfro i greu pontynau cychod gwaith newydd fel rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro sy'n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Dechreuodd y contractwr BAM Nuttall ar y gwaith adeiladu ym mis Awst 2022 ac mae disgwyl iddo gwblhau'r gwaith erbyn diwedd 2023.

Mae'r gwaith o adeiladu pontŵn cychod gwaith newydd yn mynd rhagddo'n dda ac ar ôl ei gwblhau, bydd yn darparu angorfa mawr ei hangen ar gyfer llongau, gan gefnogi gweithrediadau a chontractau cynnal a chadw hirdymor.

Buom yn holi Uwch Reolwr Prosiect Porthladd Aberdaugleddau, Jason Hester i glywed sut mae'r gwaith yn dod yn ei flaen.

Beth yw'r diweddaraf o ran gosod y pyst sylfaen, faint o byst sydd wedi'u gosod hyd yn hyn?

Ar hyn o bryd, mae gennym 6 phostyn sylfaen wedi'u gosod gyda 4 eto i'w cwblhau.

Pa ddull gosod sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y pyst sylfaen?

Mae'r prif gontractwr yn defnyddio'r dechneg drilio rotari. Dewiswyd y dull hwn yn ystod y cyfnod cynllunio ar gyfer y prosiect hwn i leihau'r effaith sŵn yn yr ardal leol a'r amgylchedd morol, yn hytrach na dull gosod a fyddai'n creu mwy o sŵn.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i osod pob postyn sylfaen?

Mae defnyddio'r dechneg drilio rotari yn gofyn am fwy o amser ac ymdrech o'i gymharu â dulliau eraill. Oherwydd caledwch y graig, mae pob postyn sylfaen yn cymryd rhwng 22-24 awr i'w gosod.

Unwaith y bydd y pyst sylfaen yn eu lle, beth yw'r cam nesaf yn natblygiad y pontŵn cychod gwaith?

Y cam nesaf fydd gosod y bracedi. Unwaith y bydd y bracedi yn eu lle bydd y pontynau yn cael eu harnofio allan i'r safle ac yn cael eu cysylltu â’r pyst sylfaen.

Beth yw'r manteision allweddol o adeiladu'r pontŵn cychod gwaith newydd hwn?

Bydd y cyfleusterau angorfeydd cychod gwaith newydd yn caniatáu mynediad diogel ac effeithlon i gychod gwaith ym mhob llanw, gan alluogi Porthladd Penfro i wasanaethu ystod lawer ehangach o ddyfeisiau morol.

Bydd hyn yn ei dro yn gwella effeithlonrwydd gweithredol ac yn rhoi'r hyblygrwydd mawr ei angen i ddatblygwyr drwy gydol y cylchoedd datblygu ac yn ystod gweithrediadau.

 

Mae datblygiad y pontŵn cychod gwaith yn rhan o brosiect Hwb Morol Doc Penfro a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo