Y datblygiadau diweddaraf ym Mhorthladd Penfro

06 July 2023

Read in English

Fel rhan o brosiect Morol Doc Penfro a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, mae’r tîm ym Mhorthladd Aberdaugleddau, ar y cyd â’n partneriaid, wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i furiau’r doc ers dechrau ar y gwaith cloddio fis Awst y llynedd, i ddatblygu porthladd parod o ran ynni i’r dyfodol yn Noc Penfro.

Gyda chyfleoedd fel gwynt arnofiol alltraeth (FLOW) ar y Môr Celtaidd a'r cais Porthladd Rhydd Celtaidd llwyddiannus, mae'r rhagolygon yn ddisglair a llewyrchus i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol i sicrhau dyfodol carbon isel ym mhorthladd ynni mwyaf blaenllaw y DU.

Yn ogystal â rheoli'r gwaith prysur yn Gât 1 yn ddiogel, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gargo, prosiectau a lifftiau trwm, mae'r datblygiadau yn Gât 4 yn mynd rhagddo’n gyflym a byddant ar gael cyn bo hir.

Dyma gip o'r hyn sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd - byddwn yn rhannu mwy gyda chi yn y misoedd nesaf.

Cysylltwch â Sharon Adams os hoffech wneud ymholiad am unrhyw un o'r datblygiadau newydd a chyffrous isod ym Mhorthladd Penfro.

Cofiwch ddilyn #Quaywatch ar LinkedIn a Twitter i weld y gweithgareddau di-ri sy'n digwydd yma.

Swyddfeydd a gweithdai
Rydyn ni bellach yn derbyn ymholiadau gan fusnesau yn y sectorau ynni adnewyddadwy a morol sy'n chwilio am safle newydd yn y swyddfeydd a'r gweithdai newydd sbon ger yr awyrendai Sunderland hanesyddol a fydd yn cael eu cwblhau'r hydref hwn. Mae'r swyddfeydd yn amrywio o 169 m2 i 760m2. Hefyd, mae gennym unedau diwydiannol hyblyg ar raddfa fawr i'w gosod gyda mynediad ar ochr y cei ar y safle, gan wneud Porthladd Penfro yn opsiwn pencadlys perffaith i ddatblygwyr a busnesau'r gadwyn gyflenwi.

Llithrfa newydd a lletach
Bydd ein llithrfa newydd, lletach wedi'i chwblhau ac ar gael i'w defnyddio erbyn gwanwyn 2024, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i ddatblygwyr a busnesau morol sydd eisiau profi dyfeisiau newydd, lansio ac adfer llongau, a neu fusnesau'r gadwyn gyflenwi sy'n darparu gwasanaethau cynnal a chadw a pheirianyddol i weithredwyr dyfeisiau ynni gwynt arnofiol alltraeth ar y Môr Celtaidd.

Pontŵn cychod gwaith
Bydd y pontynau newydd ychydig i'r dwyrain o Derfynfa Llongau Doc Penfro yn cynnig opsiynau angori tymor byr a hir ar gyfer cychod gwaith, ysgraffau ac ysgraffau ‘jack up’, fydd wedi'u lleoli'n daclus rhwng Cei 1 a'r llithrfa newydd. Mae'r rhain eisoes yn boblogaidd a byddant ar gael i'w defnyddio o hydref 2023.

Gofod gosod
Mae dyfeisiau adnewyddadwy a diwydiannau ategol i gyd angen gofod. Felly, rydyn ni wedi creu gofod gosod ychwanegol trwy lenwi'r pwll pren, ac wedi trawsnewid yn llwyr yr ardal i'r de o'n hôl troed i ddarparu gofod gosod awyr agored helaeth a hyblyg.

Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a thrwy'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Swansea Bay City Deal

Pembroke Dock Marine logo

Y datblygiadau diweddaraf ym Mhorthladd Penfro
Y datblygiadau diweddaraf ym Mhorthladd Penfro

Cartref i’ch busnes

Swyddfeydd a gweithdai newydd ar osod ym mhorthladd Penfro, y porth i'r Môr Celtaidd.

Learn More